Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 51:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Gwrandewch arnaf, chwi sy'n dilyn cyfiawnder,sy'n ceisio'r ARGLWYDD.Edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ohoni,ac ar y chwarel lle'ch cloddiwyd;

2. edrychwch at Abraham eich tad,ac at Sara, a'ch dygodd i'r byd;un ydoedd pan elwais ef,ond fe'i bendithiais a'i amlhau.

3. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd;bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden,a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD;ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd,emyn diolch a sain cân.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 51