Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 5:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bydd deg cyfair o winllan yn dwyn un bath,a homer o had heb gynhyrchu dim ond un effa.”

11. Gwae'r rhai sy'n codi'n forei ddilyn diod gadarn,ac sy'n oedi hyd yr hwyrnes i'r gwin eu cynhyrfu.

12. Yn eu gwleddoedd fe geir y delyn a'r nabl,y tabwrdd a'r ffliwt a'r gwin;ond nid ystyriant waith yr ARGLWYDDnac edrych ar yr hyn a wnaeth.

13. Am hynny, caethgludir fy mhoblo ddiffyg gwybodaeth;bydd eu bonedd yn trengi o newyna'u gwerin yn gwywo gan syched.

14. Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,ac agor ei cheg yn ddiderfyn;fe lyncir y bonedd a'r werin,ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.

15. Darostyngir gwreng a bonedd,a syrth llygad y balch;

16. ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.

17. Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 5