Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 5:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mi ganaf i'm hanwylydganig serch am ei winllan.Yr oedd gan f'anwylyd winllanar fryncyn tra ffrwythlon;

2. fe'i cloddiodd, a'i digaregu;fe'i plannodd â'r gwinwydd gorau;cododd dŵr yn ei chanol,a naddu gwinwryf ynddi.Disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin,ond fe ddygodd rawn drwg.

3. Yn awr, breswylwyr Jerwsalem,a chwi, bobl Jwda,barnwch rhyngof fi a'm gwinllan.

4. Beth oedd i'w wneud i'm gwinllan,yn fwy nag a wneuthum?Pam, ynteu, pan ddisgwyliwn iddi ddwyn grawnwin,y dygodd rawn drwg?

5. Yn awr, mi ddywedaf wrthychbeth a wnaf i'm gwinllan.Tynnaf ymaith ei chlawdd,ac fe'i difethir;chwalaf ei mur,ac fe'i sethrir dan draed;

6. gadawaf hi wedi ei difrodi;ni chaiff ei thocio na'i hofio;fe dyf ynddi fieri a drain,a gorchmynnaf i'r cymylaubeidio â glawio arni.

7. Yn wir, gwinllan ARGLWYDD y Lluoedd yw tŷ Israel,a phobl Jwda yw ei blanhigyn dethol;disgwyliodd gael barn, ond cafodd drais;yn lle cyfiawnder fe gafodd gri.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 5