Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd,rhowch sylw, chwi bobl o bell.Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth;o fru fy mam fe'm henwodd.

2. Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym,a'm cadw yng nghysgod ei law;gwnaeth fi yn saeth loyw,a'm cuddio yng nghawell ei saethau.

3. Dywedodd wrthyf, “Fy ngwas wyt ti;ynot ti, Israel, y caf ogoniant.”

4. Dywedais innau, “Llafuriais yn ofer,a threuliais fy nerth i ddim;er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDDa'm gwobr gyda'm Duw.”

5. Ac yn awr, llefarodd yr ARGLWYDD,a'm lluniodd o'r groth yn was iddo,i adfer Jacob iddo a chasglu Israel ato,i'm gogoneddu yng ngŵydd yr ARGLWYDD,am fod fy Nuw yn gadernid i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49