Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 46:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Crymodd Bel, plygodd Nebo;ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau,ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig,yn faich ar anifeiliaid blinedig.

2. Plygant a chrymant gyda'i gilydd,ni allant arbed y llwyth,ond ânt eu hunain i gaethglud.

3. “Gwrandewch arnaf fi, dŷ Jacob,a phawb sy'n weddill o dŷ Israel;buoch yn faich i mi o'r groth,ac yn llwyth i mi o'r bru;

4. hyd eich henaint, myfi yw Duw,hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf.Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo,myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 46