Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 44:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan,a mynegi a gosod ei achos ger fy mron.Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod?Dyweded wrthym beth sydd i ddigwydd.

8. Peidiwch ag ofni na dychryn;oni ddywedais wrthych erstalwm?Fe fynegais, a chwi yw fy nhystion.A oes duw ond myfi?Nid oes craig. Ni wn i am un.”

9. Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim,ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch;y mae eu tystion heb weld a heb wybod,ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.

10. Pwy sy'n gwneud duw neu'n cerfio delwos nad yw'n elw iddo?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 44