11. Gwelwch, cywilyddir pawb sy'n gweithio arno,ac nid yw'r crefftwyr yn ddim ond pobl.Pan gasglant ynghyd a dod at ei gilydd,daw ofn a chywilydd arnynt i gyd.
12. Y mae'r gof yn hogi cŷnac yn gweithio'r haearn yn y tân;y mae'n ei ffurfio â morthwylion,ac yn gweithio arno â nerth ei fraich.Yna bydd arno angen bwyd, a'i nerth yn pallu,ac eisiau diod arno, ac yntau'n diffygio.
13. Y mae'r saer coed yn estyn llinyn,ac yn marcio â phensil;yna y mae'n llyfnhau'r pren â'r plaen,ac yn ei fesur â chwmpas,ac yn ei gerfio ar ffurf meidrolyn,mor lluniaidd â ffurf ddynol—i fyw mewn tŷ.
14. Y mae rhywun yn torri iddo'i hun gedrwydden,neu'n dewis cypreswydden neu dderwenwedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig—cedrwydden wedi ei phlannu, a'r glaw wedi ei chryfhau.
15. Bydd peth ohoni'n danwydd i rywun i ymdwymo wrtho;bydd hefyd yn cynnau tân i grasu bara;a hefyd yn gwneud duw i'w addoli;fe'i gwna'n ddelw gerfiedig ac ymgrymu iddi.
16. Ie, y mae'n llosgi'r hanner yn dân,ac yn rhostio cig arno,ac yn bwyta'i wala;y mae hefyd yn ymdwymo a dweud,“Y mae blas ar dân;peth braf yw gweld y fflam.”