Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Pwy a fynegodd hyn o'r dechreuad, inni gael gwybod,neu ei ddweud ymlaen llaw, inni gael ei ategu?Nid oes neb wedi dweud na mynegi dim,ac ni chlywodd neb eich ymadrodd.

27. Gosodaf un i lefaru'n gyntaf wrth Seion,ac i gyhoeddi newyddion da i Jerwsalem.

28. Pan edrychaf, nid oes neb yno;nid oes cynghorwr yn eu plitha all ateb pan ofynnaf.

29. Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim;llai na dim yw eu gwaith,gwynt a gwagedd yw eu delwau.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41