Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. “Gosodwch eich achos gerbron,” medd yr ARGLWYDD.“Cyflwynwch eich dadleuon,” medd brenin Jacob.

22. “Bydded iddynt ddod a hysbysu i nibeth sydd i ddigwydd.Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch,er mwyn inni eu hystyried,a gwybod eu canlyniadau;neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.

23. Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn,inni gael gwybod mai duwiau ydych;gwnewch rywbeth, da neu ddrwg,er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom.

24. Yn wir, nid ydych chwi'n ddim,ac nid yw'ch gwaith ond diddim.Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.

25. “Codais un o'r gogledd, ac fe ddaeth,un o'r dwyrain, ac fe eilw ar f'enw;y mae'n sathru rhaglawiaid fel pridd,ac fel crochenydd yn sathru clai.

26. Pwy a fynegodd hyn o'r dechreuad, inni gael gwybod,neu ei ddweud ymlaen llaw, inni gael ei ategu?Nid oes neb wedi dweud na mynegi dim,ac ni chlywodd neb eich ymadrodd.

27. Gosodaf un i lefaru'n gyntaf wrth Seion,ac i gyhoeddi newyddion da i Jerwsalem.

28. Pan edrychaf, nid oes neb yno;nid oes cynghorwr yn eu plitha all ateb pan ofynnaf.

29. Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim;llai na dim yw eu gwaith,gwynt a gwagedd yw eu delwau.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41