Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. “Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael,a'u tafodau'n gras gan syched,byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb;ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.

18. Agoraf afonydd ar ben y moelydd,a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd;gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd,a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.

19. Plannaf yn yr anialwch gedrwydd,acasia, myrtwydd ac olewydd;gosodaf ynghyd yn y diffeithwchffynidwydd, ffawydd a phren bocs.

20. Felly cânt weld a gwybod,ystyried ac amgyffredmai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn,ac mai Sanct Israel a'i creodd.”

21. “Gosodwch eich achos gerbron,” medd yr ARGLWYDD.“Cyflwynwch eich dadleuon,” medd brenin Jacob.

22. “Bydded iddynt ddod a hysbysu i nibeth sydd i ddigwydd.Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch,er mwyn inni eu hystyried,a gwybod eu canlyniadau;neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.

23. Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn,inni gael gwybod mai duwiau ydych;gwnewch rywbeth, da neu ddrwg,er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom.

24. Yn wir, nid ydych chwi'n ddim,ac nid yw'ch gwaith ond diddim.Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41