Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:12-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat,ond heb eu cael;bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbynyn mynd yn ddim, ac yn llai na dim.

13. Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,sy'n gafael yn dy law dde,ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni,yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’

14. “Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob,na thithau'r lleuen Israel;byddaf fi'n dy gynorthwyo,” medd yr ARGLWYDD,Sanct Israel, dy Waredydd.

15. “Yn awr, fe'th wnaf yn fen ddyrnu—un newydd, ddanheddog a miniog;byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu,ac yn gwneud y bryniau fel us.

16. Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd,a'r dymestl yn eu gwasgaru.Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDDac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel.

17. “Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael,a'u tafodau'n gras gan syched,byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb;ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.

18. Agoraf afonydd ar ben y moelydd,a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd;gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd,a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.

19. Plannaf yn yr anialwch gedrwydd,acasia, myrtwydd ac olewydd;gosodaf ynghyd yn y diffeithwchffynidwydd, ffawydd a phren bocs.

20. Felly cânt weld a gwybod,ystyried ac amgyffredmai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn,ac mai Sanct Israel a'i creodd.”

21. “Gosodwch eich achos gerbron,” medd yr ARGLWYDD.“Cyflwynwch eich dadleuon,” medd brenin Jacob.

22. “Bydded iddynt ddod a hysbysu i nibeth sydd i ddigwydd.Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch,er mwyn inni eu hystyried,a gwybod eu canlyniadau;neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.

23. Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn,inni gael gwybod mai duwiau ydych;gwnewch rywbeth, da neu ddrwg,er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41