Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd,bydded i'r bobl nesáu;bydded iddynt nesáu a llefaru;down ynghyd i farn.

2. “Pwy sy'n codi un o'r dwyrain,a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam?Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen,ac yn darostwng brenhinoedd.Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf,fel us yn chwyrlïo â'i fwa.

3. Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogelar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.

4. Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn,a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad?Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau,a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”

5. Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni;daeth cryndod ar eithafion byd;daethant, a nesáu.

6. Y mae pawb yn helpu ei gilydd,a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.”

7. Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych,a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwylyn annog yr un sy'n taro ar yr eingion;y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn,ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud.

8. “Ti, Israel, yw fy ngwas;ti, Jacob, a ddewisais,had Abraham, f'anwylyd.

9. Dygais di o bellteroedd byd,a'th alw o'i eithafion,a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti;rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’

10. Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.Cryfhaf di a'th nerthu,cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41