Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 39:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael ac wedi gwella.

2. Croesawodd Heseceia hwy, a dangos iddynt ei drysordy, yr arian a'r aur a'r perlysiau a'r olew persawrus, a hefyd yr holl arfdy a phob peth oedd yn ei storfeydd; nid oedd dim yn ei dŷ nac yn ei holl deyrnas nas dangosodd Heseceia iddynt.

3. Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, “Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?” Atebodd Heseceia, “Daethant ataf o wlad bell, o Fabilon.”

4. Yna holodd, “Beth a welsant yn dy dŷ?” Dywedodd Heseceia, “Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhŷ; nid oes dim yn fy nhrysordy nad wyf wedi ei ddangos iddynt.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 39