Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 36:6-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ai'r Aifft—ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac anafu llaw y sawl sy'n pwyso arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.

7. Neu os dywedi wrthyf, “Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw”, onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, “O flaen yr allor hon yr addolwch”?

8. Yn awr, beth am daro bargen gyda'm meistr, brenin Asyria? Rhof ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.

9. Neu sut y gelli wrthod un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?

10. Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, “Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi”.’ ”

11. Dywedodd Eliacim a Sebna a Joa wrth y prif swyddog, “Gwell gennym iti siarad â ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio â siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur.”

12. Ond atebodd y prif swyddog, “Ai at dy feistr a thithau yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl sydd ar y mur, a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu dŵr eu hunain?”

13. Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, “Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria;

14. dyma y mae'n ei ddweud: ‘Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu.

15. Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu, ac ni roddir y ddinas hon i afael brenin Asyria.”

16. Peidiwch â gwrando ar Heseceia.’ Dyma eiriau brenin Asyria: ‘Gwnewch delerau heddwch â mi; dewch allan ataf; ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed dŵr o'i ffynnon ei hun,

17. nes i mi ddod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 36