Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 36:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, ato i'r fan honno, a chydag ef Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur.

4. Dywedodd y prif swyddog wrthynt, “Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria: ‘Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt?

5. A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn?

6. Ai'r Aifft—ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac anafu llaw y sawl sy'n pwyso arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.

7. Neu os dywedi wrthyf, “Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw”, onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, “O flaen yr allor hon yr addolwch”?

8. Yn awr, beth am daro bargen gyda'm meistr, brenin Asyria? Rhof ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.

9. Neu sut y gelli wrthod un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?

10. Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, “Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi”.’ ”

11. Dywedodd Eliacim a Sebna a Joa wrth y prif swyddog, “Gwell gennym iti siarad â ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio â siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur.”

12. Ond atebodd y prif swyddog, “Ai at dy feistr a thithau yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl sydd ar y mur, a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu dŵr eu hunain?”

13. Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, “Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria;

14. dyma y mae'n ei ddweud: ‘Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu.

15. Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu, ac ni roddir y ddinas hon i afael brenin Asyria.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 36