1. Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder,a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn,
2. pob un yn gysgod rhag y gwyntac yn lloches rhag y dymestl,fel afonydd dyfroedd mewn sychdir,fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig.
3. Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld,ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;
4. bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall,a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.
5. Ni elwir mwyach y ffŵl yn fonheddig,ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais.
6. Oherwydd y mae'r ffŵl yn traethu ffolineb,a'i galon yn dyfeisio drygioni,i weithio annuwioldeb,i draethu celwydd am yr ARGLWYDD;y mae'n atal bwyd rhag y newynog,ac yn gwrthod diod i'r sychedig.
7. Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus;y mae'n dyfeisio camwrii ddifetha'r tlawd trwy dwyll,a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.
8. Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd,ac yn ei anrhydedd y saif.
9. Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch;gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.
10. Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder,oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.
11. Chwi sy'n ddiofal, pryderwch,ymysgydwch o'ch difrawder.Tynnwch eich dillad ac ymnoethi;rhowch sachliain am eich lwynau.