Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 30:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Gwae chwi, blant gwrthryfelgar,” medd yr ARGLWYDD,“sy'n gweithio cynllun na ddaeth oddi wrthyf fi,ac yn dyfeisio planiau nad ysbrydolwyd gennyf fi,ac yn pentyrru pechod ar bechod.

2. Ânt i lawr i'r Aifft, heb ofyn fy marn,i geisio help gan Pharo, a lloches yng nghysgod yr Aifft.

3. Ond bydd help Pharo yn dwyn gwarth arnoch,a lloches yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.

4. Canys, er bod ei swyddogion yn Soana'i genhadau mor bell â Hanes,

5. fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd,nad ydynt yn help na llesâd, ond yn warth a gwaradwydd.”

6. Oracl am anifeiliaid y Negef:Trwy wlad caledi a loes,gwlad y llewes a'r llew,y wiber a'r sarff hedegog,fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnoda'u trysorau ar grwmp camelod,at bobl ddi-fudd.

7. Canys y mae help yr Aifft yn ofer a gwag;am hynny galwaf hi, Rahab segur.

8. Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech,a nodi hyn mewn llyfr,iddo fod mewn dyddiau a ddawyn dystiolaeth barhaol.

9. Pobl wrthryfelgar yw'r rhain,plant celwyddog,plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD,

10. ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”,ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn,ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 30