Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 3:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn,ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom.Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain.

10. Dywedwch y bydd yn dda ar y cyfiawn,canys cânt fwyta ffrwyth eu gweithredoedd.

11. Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno,canys fe gaiff yr hyn a haedda.

12. Plant sy'n gorthrymu fy mhobl,a gwragedd sy'n eu rheoli.O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain,ac yn drysu trywydd dy lwybrau.

13. Y mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,ac yn barod i farnu ei bobl.

14. Y mae'r ARGLWYDD yn dod i farnyn erbyn henuriaid y bobl a'u swyddogion:“Yr ydych wedi lloffa'r winllan yn llwyr;y mae cyfran y tlawd yn eich tai.

15. Beth yw eich meddwl, yn ysigo fy mhoblac yn mathru wyneb y tlawd?”medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

16. Dywedodd yr ARGLWYDD,“Oherwydd i ferched Seion dorsythu,a cherdded o amgylch â'u gyddfau'n ymestyn allan,a'u llygaid yn cilwenu, a'u camau'n fursennaidd,a rhodio â fferledau am eu traed,

17. bydd yr ARGLWYDD yn rhoi clafr ar gorun merched Seion,bydd yr ARGLWYDD yn dinoethi eu gwarthle hwy.”

18. Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn—y fferledau, y coronigau, y cilgantiau,

19. y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion,

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 3