Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 3:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wele, y mae'r Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn symud ymaith o Jerwsalem a Jwday gynhaliaeth a'r ffon—yr holl gynhaliaeth o fara ac o ddŵr—

2. y gŵr cadarn, y rhyfelwr,y barnwr a'r proffwyd,y dewinwr a'r henadur,

3. y capten a'r swyddog,y cynghorwr a'r swynwr celfydd,a'r sawl sy'n deall hudoliaeth.

4. Gosodaf fechgyn yn swyddogion arnynta phlantos i'w rheoli;

5. a bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd,a phob un ei gymydog;bydd y llanc yn drahaus yn erbyn yr henwr, yn y parchus.

6. Pan gaiff rhywun afael ar ei frawdyn nhŷ ei dad, fe ddywed,“Y mae gennyt ti glogyn;bydd di'n bennaeth arnom;bydded y pentwr hwn o garnedddan dy awdurdod di.”

7. Ond yn y dydd hwnnw fe etyb,“Na, ni allaf fod yn arweinydd arnoch.Nid oes bara yn fy nhŷ,na chlogyn ychwaith;ni chewch fy ngosod i yn bennaeth y tylwyth.”

8. Cwympodd Jerwsalem, syrthiodd Jwda;y mae eu geiriau a'u gweithredoedd yn erbyn yr ARGLWYDD,yn herio ei fawrhydi.

9. Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn,ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom.Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain.

10. Dywedwch y bydd yn dda ar y cyfiawn,canys cânt fwyta ffrwyth eu gweithredoedd.

11. Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno,canys fe gaiff yr hyn a haedda.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 3