Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 28:8-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Y mae pob bwrdd yn un chwydfa;nid oes unman heb fudreddi.

9. “Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu,ac i bwy y mae am roi gwers?Ai rhai newydd eu diddyfnua'u tynnu oddi wrth y fron?

10. Y mae fel dysgu sillafu:‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—gair bach yma, gair bach draw.”

11. Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithry lleferir wrth y bobl hyn,

12. y rhai y dywedodd wrthynt,“Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig,dyma'r esmwythfa”—ond ni fynnent wrando.

13. Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt:“Mater o ddysgu sillafu yw hi:‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—gair bach yma, gair bach draw.”Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn ôl,a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal.

14. Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus,penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem.

15. Yr ydych chwi'n dweud, “Gwnaethom gyfamod ag angaua chynghrair â Sheol:pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd â ni,am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll.”

16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw:“Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion,maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy;ni frysia'r sawl sy'n credu.

17. Gwnaf farn yn llinyn mesur,a chyfiawnder yn blymen;bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd,a'r dyfroedd yn boddi eich lloches;

18. diddymir eich cyfamod ag angau,ac ni saif eich cynghrair â Sheol.Pan â'r ffrewyll lethol heibiocewch eich mathru dani.

19. Bob tro y daw heibio, fe'ch tery;y naill fore ar ôl y llall fe ddaw,liw dydd a liw nos.”Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers.

20. Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo,a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano.

21. Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim,ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon,i orffen ei waith, ei ddieithr waith,ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl.

22. Yn awr, peidiwch â'ch gwatwar,rhag i'r rhwymau dynhau amdanoch,canys clywais gyhoeddi diwedd a therfyn ar yr holl wladgan Arglwydd DDUW y Lluoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 28