Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 28:20-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo,a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano.

21. Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim,ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon,i orffen ei waith, ei ddieithr waith,ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl.

22. Yn awr, peidiwch â'ch gwatwar,rhag i'r rhwymau dynhau amdanoch,canys clywais gyhoeddi diwedd a therfyn ar yr holl wladgan Arglwydd DDUW y Lluoedd.

23. Clywch, gwrandewch arnaf,rhowch sylw, a gwrandewch ar fy ngeiriau.

24. A fydd yr arddwr yn aredig trwy'r dydd ar gyfer hau,trwy'r dydd yn torri'r tir ac yn ei lyfnu?

25. Oni fydd, ar ôl lefelu'r wyneb,yn taenu ffenigl ac yn gwasgaru cwmin,yn hau gwenith a haidd,a cheirch ar y dalar?

26. Y mae ei Dduw yn ei hyfforddiac yn ei ddysgu'n iawn.

27. Nid â llusgen y dyrnir ffenigl,ac ni throir olwyn men ar gwmin;ond dyrnir ffenigl â ffon,a'r cwmin â gwialen.

28. Fe felir ŷd i gael bara,ac nid yw'r dyrnwr yn ei falu'n ddiddiwedd;er gyrru olwyn men drosto,ni chaiff y meirch ei fathru.

29. Daw hyn hefyd oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd;y mae ei gyngor yn rhyfeddola'i allu'n fawr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 28