Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 28:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae goronau balch meddwon Effraim,blodau gwyw eu haddurn gogoneddusar ben y beilchion bras a orchfygwyd gan win.

2. Wele, y mae gan yr ARGLWYDD un nerthol a chryf;fel storm o genllysg, fel tymestl ddinistriol,fel cenllif o ddyfroedd yn gorlifo'n ddilyw,fe ymesyd yn ddidostur ar y ddaear.

3. Bydd coronau balch meddwon Effraimwedi eu mathru dan draed;

4. a bydd blodau gwyw eu haddurn gogoneddusar ben y beilchion brasfel ffigysen gynnar cyn yr haf;pan wêl rhywun hi fe'i llynca gyda'i bod yn ei law.

5. Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoeddyn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl,

6. yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn,ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth.

7. Ond y mae eraill sy'n simsan gan win,ac yn gwegian yn eu diod;y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod,ac wedi drysu gan win;y maent yn gwegian mewn diod,yn simsan yn eu gweledigaeth,ac yn baglu yn eu dyfarniad.

8. Y mae pob bwrdd yn un chwydfa;nid oes unman heb fudreddi.

9. “Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu,ac i bwy y mae am roi gwers?Ai rhai newydd eu diddyfnua'u tynnu oddi wrth y fron?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 28