Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 26:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaithy sawl sydd â'i feddylfryd arnat,am ei fod yn ymddiried ynot.

4. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd,canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.

5. Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr ucheldera'r ddinas ddyrchafedig;fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad â'r llawr,a'i bwrw i'r llwch;

6. fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus,a than sang y rhai tlawd.

7. Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn;gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn;

8. edrychwn ninnau atat ti, O ARGLWYDD,am lwybr dy farnedigaethau;d'enw di a'th goffa di yw ein dyhead dwfn.

9. Deisyfaf di â'm holl galon drwy'r nos,a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr;oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad,bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.

10. Er gwneud cymwynas â'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder;fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn,ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD.

11. O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant;gad iddynt weld dy sêl dros dy bobl, a chywilyddio;a bydded i dân d'elyniaeth eu hysu.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 26