Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 26:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Fel y bydd gwraig ar fin esgoryn gwingo a gweiddi gan boen,felly y'n ceir ni yn dy ŵydd, O ARGLWYDD;

18. yr oeddem yn feichiog, ac fel pe baem ar fin esgor,a heb eni dim ond gwynt.Ni chawsom waredigaeth i'r wlad,nac epilio ar rai i drigiannu'r byd.

19. Ond bydd dy feirw di yn byw,a'u cyrff marw yn codi.Chwi sy'n trigo yn y llwch, deffrowch a chanwch;oherwydd y mae dy wlith fel gwlith goleuni,a thithau'n peri iddo ddisgyn ar fro'r cysgodion.

20. Dewch, fy mhobl, ewch i'ch ystafell,caewch y drws, ac ymguddiwch am ennyd,nes i'r llid gilio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 26