Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 26:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. ARGLWYDD, ti sy'n trefnu heddwch i ni,oherwydd ti a wnaeth ein holl weithredoedd trosom.

13. O ARGLWYDD ein Duw, er i arglwyddi eraill reoli trosom,dy enw di yn unig a gydnabyddwn.

14. Y maent yn feirw, heb fedru byw,yn gysgodion, heb fedru codi mwyach.I hynny y cosbaist hwy a'u difetha,a diddymu pob atgof amdanynt.

15. Ond cynyddaist y genedl, O ARGLWYDD,cynyddaist y genedl, a'th ogoneddu dy hun;estynnaist holl derfynau'r wlad.

16. Mewn adfyd, O ARGLWYDD, roeddym yn dy geisio,ac yn tywallt allan ein gweddipan oeddet yn ein ceryddu.

17. Fel y bydd gwraig ar fin esgoryn gwingo a gweiddi gan boen,felly y'n ceir ni yn dy ŵydd, O ARGLWYDD;

18. yr oeddem yn feichiog, ac fel pe baem ar fin esgor,a heb eni dim ond gwynt.Ni chawsom waredigaeth i'r wlad,nac epilio ar rai i drigiannu'r byd.

19. Ond bydd dy feirw di yn byw,a'u cyrff marw yn codi.Chwi sy'n trigo yn y llwch, deffrowch a chanwch;oherwydd y mae dy wlith fel gwlith goleuni,a thithau'n peri iddo ddisgyn ar fro'r cysgodion.

20. Dewch, fy mhobl, ewch i'ch ystafell,caewch y drws, ac ymguddiwch am ennyd,nes i'r llid gilio.

21. Canys wele, y mae'r ARGLWYDD yn dod allan o'i fangrei gosbi trigolion y ddaear am eu drygioni;yna fe ddatgela'r ddaear y gwaed a dywalltwyd,ac ni chuddia ei lladdedigion byth mwy.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 26