1. Yn y dydd hwnnw cenir y gân hon yng ngwlad Jwda:Y mae gennym ddinas gadarn;y mae'n gosod iachawdwriaeth yn furiau a chaerau iddi.
2. Agorwch y pyrth i'r genedl gyfiawn ddod i mewn,y genedl sy'n cadw'r ffydd.
3. Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaithy sawl sydd â'i feddylfryd arnat,am ei fod yn ymddiried ynot.
4. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd,canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.
5. Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr ucheldera'r ddinas ddyrchafedig;fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad â'r llawr,a'i bwrw i'r llwch;
6. fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus,a than sang y rhai tlawd.
7. Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn;gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn;
8. edrychwn ninnau atat ti, O ARGLWYDD,am lwybr dy farnedigaethau;d'enw di a'th goffa di yw ein dyhead dwfn.