Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 24:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. dryllir y ddaear yn deilchion,ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig;

20. bydd y ddaear yn gwegian yn ôl a blaen fel meddwyn,yn siglo fel caban gwyliwr;bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni,fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.

21. Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef,a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.

22. Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell;caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir.

23. Gwaradwyddir y lloer,a chywilyddia'r haul,oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoeddar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 24