16. O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd:“Gogoniant i'r Un Cyfiawn.”Ond fe ddywedaf fi, “Nychdod! Nychdod!Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd â'u twyll.”
17. Dychryn, pwll, maglsydd ar dy gyfer, breswylydd y tir;
18. y sawl a ffy o drwst y dychryna syrth i'r pwll,a'r sawl a gyfyd o ganol y pwlla ddelir yn y fagl.Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder,ac fe gryna seiliau'r ddaear;
19. dryllir y ddaear yn deilchion,ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig;
20. bydd y ddaear yn gwegian yn ôl a blaen fel meddwyn,yn siglo fel caban gwyliwr;bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni,fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.
21. Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef,a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.
22. Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell;caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir.
23. Gwaradwyddir y lloer,a chywilyddia'r haul,oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoeddar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.