Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 24:12-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Anghyfanedd-dra yn unig a adewir yn y ddinas,a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll.

13. Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd,fel ar adeg ysgwyd yr olewydda lloffa'r gwinwydd ar ôl y cynhaeaf.

14. Byddant yn codi llef a llawenhau,datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin.

15. Am hynny taler parch i'r ARGLWYDD yn y dwyrain,i enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ynysoedd y gorllewin.

16. O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd:“Gogoniant i'r Un Cyfiawn.”Ond fe ddywedaf fi, “Nychdod! Nychdod!Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd â'u twyll.”

17. Dychryn, pwll, maglsydd ar dy gyfer, breswylydd y tir;

18. y sawl a ffy o drwst y dychryna syrth i'r pwll,a'r sawl a gyfyd o ganol y pwlla ddelir yn y fagl.Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder,ac fe gryna seiliau'r ddaear;

19. dryllir y ddaear yn deilchion,ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig;

20. bydd y ddaear yn gwegian yn ôl a blaen fel meddwyn,yn siglo fel caban gwyliwr;bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni,fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.

21. Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef,a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.

22. Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell;caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir.

23. Gwaradwyddir y lloer,a chywilyddia'r haul,oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoeddar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 24