1. Wele, y mae'r ARGLWYDD yn gwacáu'r ddaear,yn ei difrodi, yn ei throi â'i hwyneb i waered,ac yn gyrru ei thrigolion ar wasgar.
2. Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad,i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres,i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr,i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.
3. Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr.Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.
4. Gwywodd y ddaear a chrino,dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear.
5. Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr,am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfaua diddymu'r cyfamod tragwyddol.
6. Am hynny fe ysir y wlad gan felltith,a chosbir ei thrigolion;am hynny hefyd fe â'r trigolion yn llai a llai,ac ychydig fydd yn weddill.
7. Fe â'r gwin newydd yn wan,dihoena'r winwydden,a thry'r gorfoleddwyr i riddfan.
8. Bydd sŵn llawen y tympanau yn peidio,a thrwst y gyfeddach yn distewi,a'r delyn hyfryd yn dawel.
9. Ni fydd yfed gwin yn sŵn canu;bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr.