4. Am hynny dywedais, “Trowch eich golwg oddi wrthyf,gadewch i mi wylo'n chwerw;peidiwch â cheisio fy niddanuam ddinistr merch fy mhobl.”
5. Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswchyn nyffryn y weledigaeth,diwrnod o falurio ceyryddac o weiddi yn y mynyddoedd.
6. Cododd Elam ei gawell saethau,bachwyd meirch wrth gerbydau Aram,dinoethodd Cir ei tharian.
7. Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau,a'r gwŷr meirch yn gwarchae ar y pyrth;
8. dinoethwyd amddiffynfa Jwda.Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'rarfogaeth yn Nhŷ'r Goedwig,
9. yn edrych y bylchau yn Ninas Dafyddam eu bod yn niferus,ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.
10. Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalema thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;
11. gwnaethoch gronfa rhwng y ddau furi ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn.Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth,nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.
12. Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru,am eillio pen a gwregysu â sachliain;
13. ond dyma lawenydd a gorfoledd,lladd gwartheg a lladd defaid,bwyta cig ac yfed gwin, a dweud,“Gadewch inni fwyta ac yfed,oherwydd yfory byddwn farw.”
14. Datguddiodd ARGLWYDD y Lluoedd hyn yn fy nghlyw, a dweud,“Yn wir, ni lanheir y drygioni hwn nes i chwi farw.”Dyna a ddywedodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.