Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 22:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oracl am ddyffryn y weledigaeth:Beth sy'n bod? Pam y mae pawb ohonochwedi dringo i bennau'r tai?

2. Dinas yn llawn cynnwrf, un mewn terfysg, tref mewn berw!Ni laddwyd dy laddedigion â'r cleddyf,na'th feirwon mewn brwydr.

3. Ffodd dy arweinwyr i gyd gyda'i gilydd,fe'u daliwyd heb blygu bwa;daliwyd dy filwyr praffaf i gyd gyda'i gilydd,er iddynt ffoi ymhell i ffwrdd.

4. Am hynny dywedais, “Trowch eich golwg oddi wrthyf,gadewch i mi wylo'n chwerw;peidiwch â cheisio fy niddanuam ddinistr merch fy mhobl.”

5. Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswchyn nyffryn y weledigaeth,diwrnod o falurio ceyryddac o weiddi yn y mynyddoedd.

6. Cododd Elam ei gawell saethau,bachwyd meirch wrth gerbydau Aram,dinoethodd Cir ei tharian.

7. Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau,a'r gwŷr meirch yn gwarchae ar y pyrth;

8. dinoethwyd amddiffynfa Jwda.Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'rarfogaeth yn Nhŷ'r Goedwig,

9. yn edrych y bylchau yn Ninas Dafyddam eu bod yn niferus,ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.

10. Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalema thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;

11. gwnaethoch gronfa rhwng y ddau furi ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn.Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth,nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 22