Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 20:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y flwyddyn pan ddaeth y cadfridog, a anfonwyd gan Sargon brenin Asyria, i Asdod ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill,

2. dyna'r pryd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia fab Amos, “Dos, datod y sachliain oddi am dy lwynau, a thyn dy sandalau oddi am dy draed.” Fe wnaeth hynny, a cherddodd o amgylch heb ddillad ac yn droednoeth.

3. Dywedodd yr ARGLWYDD, “Fel y mae fy ngwas Eseia wedi bod yn cerdded heb ddillad ac yn droednoeth am dair blynedd, yn arwydd a rhybudd yn erbyn yr Aifft ac Ethiopia,

4. felly y bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid yn gaeth ac Ethiopia i gaethglud, yn ifanc a hen, heb ddillad, yn droednoeth ac yn dinnoeth, yn gywilydd i'r Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 20