Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 2:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y gair a welodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:

2. Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoeddac yn uwch na'r bryniau.Dylifa'r holl genhedloedd ato,

3. a daw pobloedd lawer, a dweud,“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,i deml Duw Jacob;bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd,a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau.”Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

4. Barna ef rhwng cenhedloedd,a thorri'r ddadl i bobloedd lawer;curant eu cleddyfau'n geibiau,a'u gwaywffyn yn grymanau.Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,ac ni ddysgant ryfel mwyach.

5. Tŷ Jacob, dewch, rhodiwn yng ngoleuni'r ARGLWYDD.

6. Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl,oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain,a swynwyr fel y Philistiaid,ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.

7. Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur,ac nid oes terfyn ar eu trysorau;y mae eu gwlad yn llawn o feirch,ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;

8. y mae eu gwlad yn llawn o eilunod;ymgrymant i waith eu dwylo,i'r hyn a wnaeth eu bysedd.

9. Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth,ac y syrth pob un—paid â maddau iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 2