Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 19:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn,a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna,fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.

15. Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb,na phen na chynffon, na changen na brwynen.

16. Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn.

17. Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob sôn amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.

18. Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul.

19. Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror.

20. Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub.

21. Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo.

22. Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiacháu.

23. Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe â'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r Asyriaid.

24. Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd.

25. Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 19