Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 18:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae wlad yr adenydd chwim,sydd tu draw i afonydd Ethiopia,

2. ac yn anfon cenhadau dros y môrmewn cychod o bapurfrwyn ar wyneb y dyfroedd.Ewch, chwi negeswyr cyflym,at genedl sy'n dal ac yn llyfn,at bobl a ofnir ymhell ac agos,cenedl gref sy'n mathru eraill,a'i thir wedi ei rannu gan afonydd.

3. Chwi, holl drigolion byd a phobl y ddaear,edrychwch pan godir baner ar y mynyddoedd,gwrandewch pan gân yr utgorn.

4. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf:“Gwyliaf yn llonydd o'm trigfan,yr un fath â thes yr haula chwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”

5. Canys cyn y cynhaeaf, pan dderfydd y blodau,a'r tusw blodau yn troi'n rawnwin aeddfed,torrir ymaith y brigau â chyllell finiog,a thynnir i ffwrdd y cangau sydd ar led.

6. Fe'u gadewir i gyd i adar rheibus y mynyddac i anifeiliaid gwylltion.Yno bydd yr adar rheibus yn treulio'r haf,a'r anifeiliaid gwylltion yn gaeafu.

7. Yn yr amser hwnnw dygir rhoddion i ARGLWYDD y Lluoedd gan bobl dal a llyfn, pobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd, i'r lle sy'n dwyn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Mynydd Seion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 18