Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 17:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwyac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy,bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofida gwendid nychlyd.

12. Och! Twrf pobloedd laweryn taranu fel tonnau'r môr;y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.

13. Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion,pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell;erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt,fel plu ysgall o flaen corwynt.

14. Tua'r hwyrddydd wele drallod;cyn y bore aeth y cyfan.Dyma dynged ein hysbeilwyr,dyma ran ein rheibwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 17