6. Clywsom am falchder Moab—mor falch ydoedd—ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd,heb sail i'w hymffrost.
7. Am hynny fe uda Moab;uded Moab i gyd.Fe riddfana mewn dryswch llwyram deisennau grawnwin Cir-hareseth.
8. Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma;drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion;buont yn cyrraedd hyd at Jaser,ac yn ymestyn trwy'r anialwch.Yr oedd ei blagur yn gwthio allan,ac yn cyrraedd ar draws y môr.
9. Am hynny wylaf dros winwydd Sibmafel yr wylais dros Jaser;dyfrhaf di â'm dagrau, Hesbon ac Eleale;canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.
10. Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd;mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd,ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau,a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.