5. Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiola gwialen y llywiawdwyr,
6. a fu'n taro'r bobloedd mewn dig,heb atal eu hergyd,ac yn sathru'r bobloedd mewn llida'u herlid yn ddi-baid.
7. Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch;ac y maent yn gorfoleddu ar gân.
8. Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn,a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud,“Er pan fwriwyd di ar dy orweddni chododd neb i'n torri ni i lawr.”
9. Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddii'th dderbyn pan gyrhaeddi;bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod,pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear;gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd,sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.
10. Bydd pob un ohonynt yn ymateb,ac yn dy gyfarch fel hyn:“Aethost tithau'n wan fel ninnau;yr wyt yr un ffunud â ni.”