Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 14:25-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. drylliaf Asyria yn fy nhir,mathraf hi ar fy mynyddoedd;symudir ei hiau oddi arnata'i phwn oddi ar dy gefn.

26. Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear,a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.

27. Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd;pwy a'i diddyma?Ei law ef a estynnwyd;pwy a'i try'n ôl?”

28. Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:

29. Paid â llawenychu, Philistia gyfan,am dorri'r wialen a'th drawodd;oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber,a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.

30. Caiff y tlawd bori yn fy nolydda'r anghenus orwedd yn dawel;ond lladdaf dy wreiddyn â newyn,a dinistriaf y rhai sy'n weddill ohonot.

31. Uda, borth! Gwaedda, ddinas!Y mae Philistia gyfan mewn gwewyr.Y mae mwg yn dod o'r gogledd,ac nid oes neb yn ei rengoedd yn llusgo.

32. Beth yw'r ateb i gennad y bobl?“Gwnaeth yr ARGLWYDD Seion yn ddiogel,ac ynddi y caiff trueiniaid ei bobl loches.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 14