24. Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd,“Fel y cynlluniais y bydd,ac fel y bwriedais y digwydd;
25. drylliaf Asyria yn fy nhir,mathraf hi ar fy mynyddoedd;symudir ei hiau oddi arnata'i phwn oddi ar dy gefn.
26. Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear,a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.
27. Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd;pwy a'i diddyma?Ei law ef a estynnwyd;pwy a'i try'n ôl?”
28. Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:
29. Paid â llawenychu, Philistia gyfan,am dorri'r wialen a'th drawodd;oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber,a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.
30. Caiff y tlawd bori yn fy nolydda'r anghenus orwedd yn dawel;ond lladdaf dy wreiddyn â newyn,a dinistriaf y rhai sy'n weddill ohonot.
31. Uda, borth! Gwaedda, ddinas!Y mae Philistia gyfan mewn gwewyr.Y mae mwg yn dod o'r gogledd,ac nid oes neb yn ei rengoedd yn llusgo.