Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 12:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y dydd hwnnw fe ddywedi,“Molaf di, O ARGLWYDD;er iti ddigio wrthyf,trodd dy lid, a rhoist gysur imi.

2. Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth;rwy'n hyderus, ac nid ofnaf;canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân,ac ef yw fy iachawdwr.”

3. Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵro ffynhonnau iachawdwriaeth.

4. Yn y dydd hwnnw fe ddywedi,“Diolchwch i'r ARGLWYDD,galwch ar ei enw;hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd,cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf.

5. Canwch salmau i'r ARGLWYDD,canys enillodd fuddugoliaeth;hysbyser hyn yn yr holl dir.

6. Bloeddia, llefa'n llawen, ti sy'n preswylio yn Seion;canys y mae Sanct Israel yn fawr yn eich plith.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 12