Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae'r rhai a wnânt ddeddfau anghyfiawna deddfu gormes yn ddi-baid;

2. i droi'r tlodion oddi wrth farn,ac amddifadu'r anghenus o blith fy mhobl o'u hawliau;i wneud gweddwon yn ysbail iddynta'r rhai amddifad yn anrhaith.

3. Beth a wnewch yn nydd y dial,yn y dinistr a ddaw o bell?At bwy y ffowch am help?Ple y gadewch eich cyfoeth,

4. i osgoi crymu ymhlith y carcharoriona syrthio ymhlith y lladdedigion?Er hynny, ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

5. “Gwae Asyria, gwialen fy llid;hi yw ffon fy nigofaint.

6. Anfonaf hi yn erbyn cenedl annuwiol,a rhof orchymyn iddi yn erbyn pobl fy nicter,i gymryd ysbail ac i anrheithio,a'u mathru dan draed fel baw'r heolydd.

7. Ond nid yw hi'n amcanu fel hyn,ac nid yw'n bwriadu felly;canys y mae ei bryd ar ddifethaa thorri ymaith genhedloedd lawer.

8. Fe ddywed,‘Onid yw fy swyddogion i gyd yn frenhinoedd?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10