Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 1:23-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Y mae dy arweinwyr yn wrthryfelwyrac yn bartneriaid lladron;y maent i gyd yn caru cildwrnac yn chwilio am wobrau;nid ydynt yn amddiffyn yr amddifad,ac ni roddant sylw i gŵyn y weddw.

24. Am hynny, medd yr ARGLWYDD, ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel,“Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino,a dialaf ar fy ngelynion.

25. Trof fy llaw yn dy erbyn,puraf dy sorod â thrwyth,a symudaf dy holl amhuredd.

26. Trof dy farnwyr i fod fel cynt,a'th gynghorwyr fel yn y dechrau.Ac wedi hynny fe'th elwiryn ddinas gyfiawn, yn dref ffyddlon.”

27. Gwaredir Seion trwy farn,a'i rhai edifeiriol trwy gyfiawnder.

28. Ond daw dinistr i'r gwrthryfelwyr a'r pechaduriaid ynghyd,a diddymir y rhai a gefna ar Dduw.

29. Bydd arnoch gywilydd o'r deri a oedd yn hoff gennych,a gwridwch dros eich gerddi dethol;

30. byddwch fel coeden dderw a'i dail wedi gwywo,ac fel gardd heb ddŵr ynddi.

31. Bydd y cadarn fel cynnud,a'i orchest fel gwreichionen;fe losgant ill dau ynghyd,ac ni all neb eu diffodd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 1