Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 9:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna clywais lais uchel yn dweud, “Dewch â'r rhai sydd i gosbi'r ddinas, pob un ag arf distryw yn ei law.”

2. Gwelais chwech o ddynion yn dod o gyfeiriad y porth uchaf, sy'n wynebu'r gogledd, pob un ag arf marwol yn ei law; gyda hwy yr oedd dyn wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg. Daethant i mewn a sefyll gyferbyn â'r allor bres.

3. Yna cododd gogoniant Duw Israel i fyny oddi ar y cerwbiaid, lle bu'n aros, a mynd at riniog y deml. Galwodd yr ARGLWYDD ar y dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg,

4. a dweud wrtho, “Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a rho nod ar dalcen pob un sy'n gofidio ac yn galaru am yr holl bethau ffiaidd a wneir ynddi.”

5. A dywedodd yn fy nghlyw wrth y lleill, “Ewch trwy'r ddinas ar ei ôl ef, a lladdwch; peidiwch â thosturio na thrugarhau.

6. Lladdwch hynafgwyr, gwŷr ifainc a llancesi, gwragedd a phlant; ond peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw un sydd â nod arno. Dechreuwch yn fy nghysegr.” A dechreuodd y dynion gyda'r henuriaid oedd o flaen y deml.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 9