Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 8:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Euthum i mewn, ac wrth imi edrych gwelais bob math o ymlusgiaid, anifeiliaid atgas, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu cerfio ym mhobman ar y mur.

11. Yr oedd deg a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll o'u blaenau, a Jaasaneia fab Saffan yn sefyll yn eu canol; yr oedd thuser yn llaw pob un ohonynt, a chwmwl persawrus o arogldarth yn codi.

12. A dywedodd wrthyf, “A welaist ti, fab dyn, beth y mae henuriaid tŷ Israel yn ei wneud yn y tywyllwch, bob un ohonynt yn ystafell ei gerfddelw? Fe ddywedant, ‘Nid yw'r ARGLWYDD yn ein gweld; gadawodd yr ARGLWYDD y wlad.’ ”

13. Dywedodd hefyd, “Fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd y maent yn eu gwneud.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 8