11. tyfodd trais yn anghyfiawnder dybryd; ni adewir neb ohonynt, neb o'r dyrfa, na dim o'u cyfoeth na dim o werth.
12. Daeth yr amser, cyrhaeddodd y dydd. Na fydded i'r prynwr lawenhau nac i'r gwerthwr ofidio, oherwydd daeth dicter ar y dyrfa i gyd.
13. Ni ddychwel y gwerthwr at yr hyn a werthodd, cyhyd ag y byddant ill dau'n fyw; oherwydd ni throir yn ôl y weledigaeth ynglŷn â'r dyrfa. O achos drygioni ni fydd yr un ohonynt yn dal gafael yn ei einioes.
14. Er iddynt ganu utgorn a gwneud popeth yn barod, nid â yr un allan i ryfel, oherwydd y mae fy nicter ar y dyrfa i gyd.
15. “ ‘Oddi allan y mae cleddyf, ac oddi mewn haint a newyn; bydd y rhai sydd allan yn y maes yn marw trwy'r cleddyf, a'r rhai sydd yn y ddinas yn cael eu hysu gan newyn a haint.
16. Bydd yr holl rai a ddihangodd i'r mynyddoedd, fel colomennod y dyffryn, pob un ohonynt yn griddfan am ei ddrygioni.
17. Bydd pob llaw yn llipa a phob glin fel glastwr;
18. byddant yn gwisgo sachliain, ac wedi eu gorchuddio â braw; bydd cywilydd ar bob wyneb a moelni ar bob pen.
19. Taflant eu harian i'r strydoedd, a bydd eu haur fel peth aflan; ni fedr eu harian na'u haur eu gwaredu yn nydd digofaint yr ARGLWYDD; ac ni fedrant ddigoni eu heisiau na llenwi eu stumogau; ond eu camwedd fydd eu cwymp.
20. Yr oeddent yn llawenhau â balchder yn eu tlysau hardd, ac yn eu gwneud yn ddelwau ffiaidd ac atgas; am hynny yr wyf yn eu hystyried yn aflan.