Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 46:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Felly darpara'r oen, y bwydoffrwm a'r olew bob bore yn boethoffrwm cyson.

16. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Os bydd y tywysog yn rhoi rhodd o'i etifeddiaeth i un o'i feibion, fe â hefyd i'w ddisgynyddion; bydd yn eiddo iddynt hwy trwy etifeddiaeth.

17. Ond os bydd y tywysog yn rhoi rhodd o'i etifeddiaeth i un o'i weision, bydd yn eiddo i'r gwas hyd flwyddyn ei ryddhau, ac yna bydd yn dychwelyd i'r tywysog; ei feibion yn unig a gaiff gadw ei etifeddiaeth.

18. Nid yw'r tywysog i gymryd o etifeddiaeth y bobl, a'u troi allan o'u tir; o'i eiddo ei hun y rhydd etifeddiaeth i'w feibion, fel na fydd yr un o'm pobl yn cael ei wahanu oddi wrth ei etifeddiaeth.’ ”

19. Yna aeth y dyn â mi trwy'r mynediad wrth ochr y porth i'r ystafelloedd cysegredig a wynebai tua'r gogledd, ac a berthynai i'r offeiriaid; a gwelais yno le yn y pen gorllewinol.

20. Dywedodd wrthyf, “Dyma'r lle y bydd yr offeiriaid yn coginio'r offrwm dros gamwedd a'r aberth dros bechod, ac yn pobi'r bwydoffrwm, rhag iddynt ddod â hwy i'r cyntedd nesaf allan a throsglwyddo i'r bobl yr hyn sydd sanctaidd.”

21. Yna aeth â mi i'r cyntedd nesaf allan a'm harwain i bedair cornel y cyntedd, a gwelais gyntedd ymhob un o'r pedair cornel.

22. Ym mhedair cornel y cyntedd nesaf allan yr oedd cynteddoedd bychain, deugain cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led; yr oedd pob un o'r cynteddoedd yn y pedair cornel yr un maint.

23. Y tu mewn i'r pedwar cyntedd yr oedd rhes o feini oddi amgylch, ac aelwydydd wedi eu gwneud yn agos at y meini o amgylch.

24. A dywedodd wrthyf, “Dyma'r ceginau lle bydd y rhai sy'n gwasanaethu yn y deml yn coginio aberthau'r bobl.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 46