Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Tir Cysegredig

1. “ ‘Pan fyddwch yn rhannu'r wlad yn etifeddiaeth trwy fwrw coelbren, neilltuwch yn dir cysegredig i'r ARGLWYDD gyfran yn mesur pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ac ugain mil o gufyddau o led; a bydd yr holl gyfran yn sanctaidd trwyddi.

2. Bydded pum can cufydd sgwâr ohono ar gyfer y cysegr, gyda hanner can cufydd yn dir agored o'i amgylch.

3. Yn y tir cysegredig mesurwch gyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led; yma y bydd y cysegr, sef y cysegr sancteiddiaf.

4. Bydd hon yn gyfran gysegredig o'r tir, ar gyfer yr offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac yn dynesu i wasanaethu'r ARGLWYDD; bydd yn lle ar gyfer eu tai, yn ogystal ag yn lle sanctaidd i'r cysegr.

5. Bydd cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led yn etifeddiaeth i'r Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml, iddynt gael dinasoedd i fyw ynddynt.

6. “ ‘Yn gyfochrog â'r tir sanctaidd, neilltuwch yn etifeddiaeth i'r ddinas gyfran pum mil o gufyddau o led a phum mil ar hugain o gufyddau o hyd; bydd hwn yn perthyn i holl dŷ Israel.

7. “ ‘Y tywysog fydd piau'r tir o boptu i'r tir cysegredig ac i'r tir sy'n perthyn i'r ddinas. Bydd ei dir ef yn ymestyn tua'r gorllewin ar un ochr, a thua'r dwyrain ar yr ochr arall, ac yn rhedeg yn gyfochrog â rhan un o'r llwythau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.

8. Y tir hwn fydd etifeddiaeth y tywysog yn Israel; ac ni chaiff fy nhywysogion orthrymu fy mhobl mwyach, ond gadawant i Israel etifeddu'r wlad yn ôl ei llwythau.

Rheolau i'r Tywysogion

9. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon, chwi dywysogion Israel! Rhowch heibio eich trais a'ch gormes; gwnewch yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a pheidiwch â throi fy mhobl allan o'u hetifeddiaeth, medd yr Arglwydd DDUW.

10. “ ‘Bydded gennych gloriannau cywir, effa gywir a bath cywir.

11. Y mae'r effa a'r bath i fod o'r un maint, y bath yn pwyso degfed ran o homer a'r effa ddegfed ran o homer; yr homer fydd y safon ar gyfer y ddau.

12. Bydd y sicl yn pwyso ugain gera, a bydd eich mina yn pwyso ugain sicl a phum sicl ar hugain a phymtheg sicl.

13. “ ‘Dyma'r offrwm a ddygwch: y chweched ran o effa o bob homer o wenith, a'r chweched ran o effa o bob homer o haidd.

14. Y rheol ynglŷn ag olew, gan fesur yn ôl y bath, fydd: degfed ran o bath o bob corus; y mae corus yn cynnwys deg bath neu homer, gan fod deg bath yn gyfartal â homer.

15. Hefyd un ddafad o bob diadell o ddeucant gan holl dylwythau Israel. Byddant yn fwydoffrwm, yn boethoffrwm ac yn heddoffrymau i wneud cymod dros Israel, medd yr Arglwydd DDUW.

16. Bydd holl bobl y wlad yn rhoi'r offrwm hwn i'r tywysog yn Israel.

17. Dyletswydd y tywysog fydd darparu'r poethoffrymau, y bwydoffrymau a'r diodoffrymau ar gyfer y gwyliau, y newydd-loerau a'r Sabothau, sef holl wyliau penodedig tŷ Israel. Bydd yn darparu'r aberth dros bechod, y bwydoffrwm, y poethoffrwm a'r heddoffrymau i wneud cymod dros dŷ Israel.

Y Gwyliau

18. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, cymer fustach ifanc di-nam, a phura'r cysegr.

19. Y mae'r offeiriad i gymryd o waed yr aberth dros bechod a'i roi ar byst pyrth y deml, ar bedair cornel silff uchaf yr allor ac ar byst pyrth y cyntedd mewnol.

20. Gwna'r un modd ar y seithfed dydd o'r mis dros unrhyw un a bechodd yn ddifwriad neu trwy anwybodaeth; felly y gwnewch gymod dros y tŷ.

21. “ ‘Ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, cadwch y Pasg, yn ŵyl am saith diwrnod, pan fyddwch yn bwyta bara croyw.

22. Y diwrnod hwnnw y mae'r tywysog i baratoi bustach yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun ac ar ran holl bobl y wlad.

23. Bob dydd yn ystod saith diwrnod yr ŵyl y mae i ddarparu saith bustach a saith hwrdd di-nam yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, a bwch gafr yn aberth dros bechod.

24. Yn fwydoffrwm y mae i ddarparu effa am bob bustach ac effa am bob hwrdd, gyda hin o olew am bob effa.

25. Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ac am saith diwrnod yr ŵyl honno, y mae i ddarparu'r un modd, yn aberth dros bechod, boethoffrwm, bwydoffrwm ac olew.