Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 43:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yn awr, bydded iddynt droi ymaith oddi wrthyf eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd, ac fe drigaf yn eu plith am byth.

10. “Fab dyn, disgrifia'r deml i bobl Israel, er mwyn iddynt gywilyddio am eu camweddau. Bydded iddynt ystyried y cynllun,

11. ac os byddant yn cywilyddio am y cyfan a wnaethant, dangos iddynt batrwm y deml, ei chynllun, ei hagoriadau a'i mynedfeydd, a'i holl batrwm. Gwna iddynt wybod ei holl ddeddfau a'i holl gyfreithiau; ysgrifenna hwy yn eu gŵydd, er mwyn iddynt ddilyn ei phatrwm a chadw ei deddfau.

12. Dyma fydd cyfraith y deml: bydd yr holl diriogaeth oddi amgylch ar ben y mynydd yn gwbl sanctaidd. Dyna gyfraith y deml.

13. “Dyma fesuriadau'r allor mewn cufyddau hir, sef cufydd a dyrnfedd: bydd ei gwaelod yn gufydd o uchder ac yn gufydd o led, gyda chantel rhychwant o led o amgylch yr ymyl. A dyma fydd uchder yr allor:

14. o'r gwaelod ar y llawr hyd y silff isaf, bydd yn ddau gufydd, ac yn gufydd o led; o'r silff leiaf hyd y silff fwyaf bydd yn bedwar cufydd, ac yn gufydd o led.

15. Bydd aelwyd yr allor yn bedwar cufydd o uchder, a bydd pedwar corn yn codi i fyny oddi ar yr aelwyd.

16. Bydd aelwyd yr allor yn sgwâr, deuddeg cufydd o hyd a deuddeg cufydd o led.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 43